Skip to Main content

Systemau a phrosesau: sicrhau bod popeth yn gweithio gyda’i gilydd

Dyddiad diweddaru diwethaf: 9 Meh 2025

Dylai systemau a phrosesau sefydliad i gyd hyrwyddo diwylliant cadarnhaol a gweithio gyda’r pum egwyddor.

Dylen nhw fod yn berthnasol, greddfol a chefnogi pawb sy’n eu defnyddio. 

Gwrandewch ar Taryn yn siarad am gefnogi systemau a phrosesau mewn diwylliant cadarnhaol. 

Beth yw systemau a phrosesau?

Systemau a phrosesau yw polisïau, trefniadau neu ffyrdd o weithio. 

Maen nhw’n ein helpu i redeg gwasanaethau cynaliadwy sy’n cwrdd ag anghenion ein staff a’r bobl y rhown ofal neu gymorth iddyn nhw.

Mae systemau a phrosesau’n cynnwys:

  • polisïau cenedlaethol a sefydliadol 
  • sut y comisiynwn wasanaethau 
  • sut y cofnodwn ac y cadwn lygad ar ansawdd gwasanaethau a’u heffaith 
  • sut rydyn ni’n cynnwys eraill wrth werthuso ein gwasanaeth 
  • sut y sicrhawn ein bod yn cynnwys y bobl a gefnogwn, timau a phartneriaid wrth ddylunio gwasanaethau gofal a chymorth, neu wrth benderfynu sut i’w rheoli 
  • deall y math o ofal neu gymorth sydd ei angen ar rywun i gyflawni’r pethau sy’n bwysig iddyn nhw 
  • diogelu hawliau, iechyd a llesiant pobl i fyw’n rhydd o niwed, esgeuluso neu gael eu cam-drin. 

Gallwn ddylunio a defnyddio systemau a phrosesau i greu diwylliannau cadarnhaol yn ein sefydliadau. 

Gallwn hefyd eu defnyddio i greu diwylliant cadarnhaol ehangach wrth weithio gyda’n partneriaid mewn timau, sefydliadau a sectorau eraill.

Gelwir hyn weithiau’n ‘ddull system-gyfan o weithio’.

Sut y mae systemau a phrosesau da’n cefnogi diwylliant cadarnhaol?

Mae dull system-gyfan o weithio’n cefnogi diwylliant cadarnhaol:

  • drwy helpu pawb i ddeall beth sy’n bwysig i bobl a chymunedau, gan gynnwys:
    • eu cryfderau
    • eu hanghenion
    • eu cyfleoedd
    • beth yw’r disgwyliadau ohonyn nhw
    • eu hadnoddau a chymorth.
  • drwy annog perthnasoedd cryf, ymddiried mwy a chefnogi mwy o weithio mewn partneriaeth, gan gynnwys gweithio gyda:
    • y sector preifat
    • y sector cyhoeddus
    • y gymuned wirfoddol
    • mentrau cymdeithasol
    • mudiadau cymunedol neu grwpiau cymuned sy’n cael eu rhedeg gan eu defnyddwyr
    • arbenigwyr drwy brofiad
    • sefydliadau sy’n cynrychioli lleiafrifoedd ethnig – gan gynnwys hil a chydraddoldeb.
  • drwy ei gwneud yn haws i ni weithio gyda’n gilydd i rannu sgiliau, gwybodaeth ac adnoddau er mwyn eu defnyddio’n fwy effeithiol
  • drwy greu cyfleoedd i rannu ffyrdd newydd o gefnogi newid diwylliant
  • drwy greu cyfleoedd i rannu ffyrdd newydd o roi beth sydd ei angen ar bobl a chymunedau i fyw bywyd gyda llesiant da
  • drwy greu’r amgylchedd gwaith, ymddygiad a’r agweddau iawn fel y gallwn greu a dylanwadu ar bolisi, neu gynlluniau, i newid pethau er gwell.

I lwyddo, mae angen i ni gyd weithio gyda’n gilydd tuag at bwrpas cyffredin a chydnabod rolau, cryfderau a chyfraniadau ein gilydd.

Gyda dull system-gyfan o weithio, gallai’r rolau hyn gynnwys:

  • pobl gyda phrofiad byw
    • Cael llais a gallu dylanwadu ar, a chyd-gynhyrchu gwasanaethau gofal a chymorth er mwyn hybu eu hiechyd a’u llesiant yn well.
  • pobl sy’n gweithio mewn gofal cymdeithasol
    • Gallu bod yn greadigol a chael eu grymuso i wneud newidiadau os ydyn nhw’n gweld rhwystrau yn y system.
    • Cael cyfle a chefnogaeth i newid systemau sydd ddim yn helpu’r bobl a’r cymunedau a gefnogir ganddyn nhw i gyflawni’r pethau sy’n bwysig iddyn nhw.
  • arweinwyr polisi
    • Defnyddio egwyddorion diwylliant cadarnhaol wrth lunio polisi neu wneud penderfyniadau am bolisi yng Nghymru.
    • Cael sgyrsiau gyda gwahanol bobl a sefydliadau sydd â phrofiad byw a phrofiad o ymarfer, i helpu pawb i ddeall yr heriau a beth sydd angen i bawb ei wneud. Gelwir hyn hefyd yn ‘gydgynhyrchu’.
    • Casglu data a monitro effaith newid.
  • comisiynwyr
    • Sicrhau eu bod yn comisiynu gwasanaethau gan sefydliadau gyda diwylliant cadarnhaol.
    • Cynnwys egwyddorion diwylliant cadarnhaol mewn contractau a manylebau gwasanaeth.
  • rheoleiddwyr
    • Mae arolygiadau’n ystyried a oes tystiolaeth o ddiwylliant cadarnhaol gan adlewyrchu’r canfyddiadau mewn adroddiad arolygu.
    • Sicrhau bod disgrifiadau sgoriau’n adlewyrchu diwylliannau cadarnhaol.
  • arweinwyr gofal cymdeithasol
    • Gweithio gyda phobl i ddeall beth sy’n atal pobl rhag cyflawni’r pethau sy’n bwysig iddyn nhw a gweithio gyda staff a phartneriaid i newid y pethau hyn.
    • Sicrhau bod systemau a phrosesau sefydliadol yn cefnogi diwylliant cadarnhaol.
    • Cymryd camau rhagweithiol a phositif i gyflwyno newid.

Ble i gael gwybod mwy

Dyma ddolenni at wybodaeth ac adnoddau i’ch helpu i ddechrau meddwl am sut y mae eich systemau a phrosesau’n cefnogi diwylliant cadarnhaol.

Efallai na fydd rhai o'r dolenni hyn ar gael yn ddwyieithog neu mewn fformat hygyrch. Dydyn ni ddim yn gyfrifol am gynnwys a gynhyrchir gan sefydliadau eraill.

Mae eich llesiant yn bwysig: fframwaith iechyd a llesiant y gweithlu – Gofal Cymdeithasol Cymru
Mae’r fframwaith hwn yn cynnwys dolenni ac yn cyfeirio at adnoddau i reolwyr, sefydliadau a gweithwyr gofal cymdeithasol, blynyddoedd cynnar a gofal plant i roi systemau a phrosesau yn eu lle i wella llesiant yn y gwaith.

Fframwaith gweithio gyda chymunedau – Gofal Cymdeithasol Cymru 
Canllaw i gyrff sector cyhoeddus, sefydliadau cymorth a phawb sydd eisiau gweithio gyda chymunedau.

Cyd-gynhyrchu: beth ydy o a sut i'w wneud o – SCIE
Adnoddau i helpu i gyd-gynhyrchu gyda thimau, comisiynwyr a chymunedau.