Dr Eleanor Johnson
Rheolwr ymchwil
ymchwil@gofalcymdeithasol.cymru
Rwy'n rheoli ein tîm ymchwil. Rydyn ni'n annog ac yn hyrwyddo ymchwil o ansawdd da ar ofal cymdeithasol yng Nghymru ac yn berthnasol i Gymru drwy osod blaenoriaethau ymchwil a chefnogi ymchwilwyr. Rydyn ni'n casglu ynghyd canfyddiadau ymchwil i ddarparu mewnwelediadau i bobl sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol drwy grynodebau tystiolaeth Gofal Cymdeithasol Cymru. Cyn ymuno â Gofal Cymdeithasol Cymru roeddwn yn Gymrawd Ymchwil yng Nghanolfan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymdeithasol ym Mhrifysgol Bryste. Mae fy ngwaith ymchwil yn cynnwys: gwaith gofal â thal, tai a gofal a gwirfoddolwyr gofal cymdeithasol. Roeddwn i hefyd yn dysgu dulliau ymchwil i fyfyrwyr gradd feistr. Yn ddiweddarach, fe wnes i ymchwil wedi ei ariannu gan yr NIHR, Ysgol Ymchwil Gofal Cymdeithasol ar sut wnaeth y pandemig effeithio ar ddarpariaeth mewn cartrefi gofal preifat a chartrefi gofal preswyl i bobl hŷn. Mae fy ngwaith ymchwil PhD, Prifysgol Caerdydd (2018), yn cymharu profiadau gweithwyr gofal a darpariaeth gofal mewn cartrefi preswyl cost uchel a chost isel i bobl hŷn. Bues i'n gweithio fel gweithiwr gofal mewn cartrefi preswyl i bobl hŷn cyn, ac yn ystod, fy noethuriaeth.
Dr Kat Deerfield
Cydlynydd ymchwil
ymchwil@gofalcymdeithasol.cymru
Fy mhrif gyfrifoldeb yw creu crynodebau tystiolaeth, sef trosolwg o ymchwil ar bynciau sy'n bwysig i bobl sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol. Rwy'n ymchwilio mewn i bethau y mae pobl sy'n gweithio yn y sector wedi dweud y maen nhw eisiau dysgu mwy amdanynt. Mae'r cynnwys wedyn yn cael ei gyhoeddi ar ein gwefan. Yn y gorffennol, bues i'n gweithio mewn rolau cyfathrebu a marchnata, ac mewn ymchwil academaidd a'r trydydd sector. Bues i hefyd yn olygydd ar fy liwt fy hun ac yn brawfddarllenydd. Gweithiais yng Nghanolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol Plant (CASCADE) ym Mhrifysgol Caerdydd am bum mlynedd, i gychwyn fel gweinyddwr prosiect ac yn ddiweddarach fel cydymaith ymchwil.
Dr Grace Krause
Cydlynydd ymchwil
ymchwil@gofalcymdeithasol.cymru
Prif diben fy rôl yw gwneud ymchwil yn hygyrch i bobl sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol. Fel tîm, rydyn ni'n cymryd ymchwil academaidd, ymchwil gan sefydliadau eraill neu gan bobl gyda phrofiad byw, a data Gofal Cymdeithasol Cymru ac yn creu gwybodaeth sy'n hawdd ei deall. Rwyf wedi fy hyfforddi mewn gwaith cymdeithasol ac mae gen i brofiad o weithio gydag ystod o bobl. Mae hyn yn cynnwys pobl gydag anabledd dysgu, pobl gyda phrofiad camdrin sylweddau, a goroeswyr gwaith rhyw. Mae gen i radd feistr mewn troseddeg a PhD mewn gwyddorau cymdeithasol. Mae fy ngwaith ymchwil yn cynnwys amryw o feysydd megis addysg, agweddau tuag at frechu, y ffordd mae pobl yn trin credoau moesol, ac anghydraddoldeb yn y gweithle.